Cyfieithwyd gan Dmitri Hrapof
Ponyt oed iawn ynni, brodyr,
dechreu a hen eirieu
ystyr anha6d kyrch Igwar,
Igwar vab Yswiatollaf?
Dechreu'r ystyr hwnn
gan chwedleu'r amser hwnn
na medul Boyan.
Pryt pan oed yn gwneithur kert y neb
redei Boyan Doeth
yn y dechymyc ar uit,
mal bleit luit ar dayar,
mal eryr glas dan wybren.
A doi cof ymrysson amser kyntaw idaw
Yna y gollyngei dec hebawc ar heit elyrch:
pa hebawc bynnac a’e gordiwedei,
honno a ganei gert yn gyntaw
y Iarollaf Hen,
y Vystillaf Dewr,
a ladawd Rededia rac lluoed y Kasogyon;
y Roman Dec vab Yswiatollaf.