К началу

Czerwone maki

Czy widzisz te gruzy na szczycie?
Tam wróg twój się ukrył jak szczur.
Musicie, musicie, musicie
Za kark wziąć i strącić go z chmur.
I poszli szaleni zażarci,
I poszli zabijać i mścić,
I poszli jak zawsze uparci,
Jak zawsze za honor się bić.

Przyśpiew
Czerwone maki na Monte Cassino
Zamiast rosy piły polską krew.
Po tych makach szedł żołnierz i ginął,
Lecz od śmierci silniejszy był gniew.
Przejdą lata i wieki przeminą.
Pozostaną ślady dawnych dni
I tylko maki na Monte Cassino
Czerwieńsze będą, bo z polskiej wzrosną krwi.

Runęli przez ogień, straceńcy,
Niejeden z nich dostał i padł,
Jak ci z Somosierry szaleńcy,
Jak ci spod Racławic sprzed lat.
Runęli impetem szalonym,
I doszli. I udał się szturm.
I sztandar swój biało czerwony
Zatknęli na gruzach wśród chmur,

Przyśpiew

Czy widzisz ten rząd białych krzyży?
Tam Polak z honorem brał ślub.
Idź naprzód, im dalej, im wyżej,
Tym więcej ich znajdziesz u stóp.
Ta ziemia do Polski należy,
Choć Polska daleko jest stąd,
Bo wolność krzyżami się mierzy,
Historia ten jeden ma błąd.

Przyśpiew

Feliks Konarski
Śpiewa chór męski

Pabïau

Wyt ti’n gweld yr adfeilion hyn ar y copa?
Ymguddiodd dy elyn yno fel llygoden fawr.
Rhaid, rhaid, rhaid ichi
Gydio yn ei wddf a’i daflu oddi ar y cymylau.
Ac fe aeth y gwylltion gwallgof,
Ac fe aethant i ladd a dial,
Ac fe aethant yn ystyfnig yn ôl eu harfer,
Fel bob tro i ymladd dros anrhydedd.

Cytgan
Drachtiai’r pabïau ar Monte Cassino
Waed Pwylaidd yn lle gwlith.
Cerddai milwr ar y pabïau hyn ac fe’i lladdwyd,
Ond bu dicter yn gryfach nag angau.
Aiff blynyddoedd a chanrifoedd heibio.
Erys olion yr hen ddyddiau
Ond bydd y pabïau ar Monte Cassino
Yn gochach am iddynt dyfu o waed Pwylaidd.

Rhuthrai’r penboethiaid drwy dân,
Nid un ohonynt yn unig a gwympodd,
Fel y gwallgofion o Somosierra,
Fel y rheiny o Racławica ers talwm.
Rhuthrasant dan ysgogiad gwyllt,
A chyrraedd. A bu’r cyrch yn llwyddiannus.
A chodasant eu baner coch a gwyn
Ar yr adfeilion ymhlith y cymylau.

Cytgan

Wyt ti’n gweld y rhes o groesau gwynion?
Yno y bu priodas Pwyliad ac anrhydedd.
Cer ymlaen; pellaf i gyd, uchaf i gyd,
Mwyaf i gyd ohonynt fydd oddi tanot.
Mae’r tir hwn yn eiddo i Wlad Pwyl,
Er bod Gwlad Pwyl yn bell oddi yma,
Oherwydd mesurir rhyddid mewn croesau,
Dyma un camgymeriad Hanes.

Cytgan

Cyfieithwyd gan Dmitri Hrapof
Golygwyd gan Dr Aled Llion Jones

К началу